Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 9 Ionawr 2019
Amser:
09.16 -
12.21
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5173
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Huw Irranca-Davies AC (yn lle Jayne Bryant AC) Mark Isherwood AC Jenny Rathbone AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Katrin Shaw, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Chris Vinestock, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Julie James AC, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Angharad Thomas-Richards, Llywodraeth Cymru Lisa James, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Megan Jones (Ymchwilydd) |
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2. Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Siân Gwenllian AC , Jack Sargeant AC a Jayne Bryant AC. Dirprwyodd Huw Irranca-Davies AC ar ran Jayne Bryant AC.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
· Chris Vinestock, Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Ymchwiliadau
· Katrin Shaw, Cyfarwyddwr Polisi, Materion Cyfreithiol a Llywodraethu
2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i ddarparu ei ymateb, os oedd ar gael, i'r ymgynghoriad diweddar ar gynghorau tref a chymuned, ac ar sut yr ymdrinnir â chwynion lleol.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
· Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr, Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
· Angharad Thomas-Richards, Cynghorwr y Rhaglen Diwygio Etholiadol, Llywodraeth Cymru
3.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Gweinidog Tai ac Adfywio i ddarparu'r eitemau a ganlyn:
· nodyn briffio ar gynnydd y cwricwlwm newydd mewn ysgolion arloesi, sy'n cynnwys llinyn sy'n annog disgyblion i fod yn ddinasyddion iach a gweithredol yng Nghymru;
· y daflen a luniwyd gan Gyngor Dinas Bryste ar ei waith ynghylch amrywiaeth;
4.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd at y Prif Weinidog ar y pryd mewn perthynas â deddfwriaeth sy’n ymwneud â Brexit.
4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20.
4.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y pryd mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20.
4.4.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng y Cadeirydd ac Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ar y pryd mewn perthynas â beichiogrwydd, mamolaeth a gwaith.
4.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd ynghylch diwygio’r Cynulliad: Ariannu’r Comisiwn Etholiadol ac atebolrwydd y sefydliad.
5.1. Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
6.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2.
7.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 3.
8.1. Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu ar gyfer yr ymchwiliad i ddatganoli budd-daliadau lles a chytunodd arno.
9.1. Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu ar gyfer yr ymchwiliad i fathodynnau glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu.
10.1. Cytunodd y Pwyllgor ar drefn ystyried y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) cyn trafodion Cyfnod 2.